System Bwyd Lleol Gwydn
Yn ymarferol, mae holl amaethyddiaeth Cymru yn ddibynnol iawn ar ddim ond tri chynnyrch; cig oen, cig eidion a llaeth. Mae'r mwyafrif helaeth yn cael ei allforio fel cynnyrch amrwd [heb ei brosesu] a'i werthu felly ar y farchnad nwyddau. Mae hyn yn rhoi nifer o broblemau difrifol inni: Bydd system fwyd fwy amrywiol a lleol yn mynd i'r afael â llawer o'r problemau hyn. Bydd yn sicr yn gwneud cyfraniad mawr i economi ranbarthol wydn ar gyfer yr ardal Calon Cymru.
Mae mentrau cnydau yn gyffredinol yn fwy proffidiol (er eu bod yn fwy o risg); mae'r ymyl gros yr hectar o bresych, er enghraifft, fel arfer fwy na 10 gwaith yn fwy na mentrau cig eidion a defaid.
Mae ystod ehangach o gynhyrchion yn golygu y gallwn ddatblygu system fwyd leol sy'n cynnig ffrwythau a llysiau, bara, cwrw ac ati yn ogystal â chig a llaeth.
Mae pob hectar o arddwriaeth, gan ddefnyddio dulliau cynhyrchu ar raddfa fach, yn creu 2 swydd amser llawn. Ar hyn o bryd dim ond 0.1% o'r tir amaethyddol yng Nghymru sy'n cael ei ddefnyddio i dyfu ffrwythau a llysiau, yn darparu dim ond 3% o anghenion 5 y dydd y genedl.
Bydd economi fwyd leol ar gyfer yr ardal Calon Cymru yn cynnwys:
-
Cynnydd mewn cynhyrchu cnydau âr a garddwriaethol.
-
Cyfleusterau offer a storio ar gyfer prosesu cnydau yn sylfaenol (golchi, pacio ac ati).
-
Cyfleusterau ar gyfer ychwanegu gwerth (ee. gwneud cordialau, jamiau, hufen iâ, selsig, sawsiau ac ati.
-
Seilwaith marchnata lleol (marchnadoedd cyfanwerthwyr / manwerthwyr / ffermwyr lleol / cydweithfeydd bwyd, prosiectau CSA ac ati).
-
Marchnad leol; h.y. sylfaen cwsmeriaid a fydd yn prynu trwy'r holl lwybrau hyn.