top of page

Beth rydyn ni'n ei wneud

Sefydlwyd Rhwydwaith Calon Cymru yn 2009 gan grŵp gwirfoddol bach o gynllunwyr, penseiri ac eraill sydd â phrofiad eang i ddatblygu  syniadau am ffyrdd i ddatrys problemau poblogaeth sy'n heneiddio, diffyg tai fforddiadwy ac economi sy'n dirywio ar hyd a thu hwnt y rheilffordd Calon Cymru wledig, yn yr ardal wledig Canolbarth Cymru.

Ers hynny ymunodd aelodau newydd o ystod o ddisgyblaethau cyflenwol â'r tîm sydd bellach yn cynnwys y rhan fwyaf o'r sgiliau proffesiynol a thechnegol sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol difrifol yng nghefn gwlad Cymru. Mae cymorth ychwanegol, mwy arbenigol ar gael gan gylch allanol o ffrindiau a chydweithwyr yn y byd academaidd a chyrff anllywodraethol.

Yn 2013 ymgorfforwyd y grwp fel Cwmni Budd Cymunedol, busnes dielw, er mwyn gweithredu'n fwy ffurfiol fel sefydliad galluogi.

Mae'r adran hon yn cynnwys rhai o'n prosiectau a gwblhawyd yn flaenorol a'n papurau lobïo. Yn ddiweddar rydym ni wedi cefnogi sefydliad Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Cynefin, yn awr yn annibynnol.




Ein hamcanion

Helpu i nodi problemau penodol a dod o hyd i ffyrdd cydgysylltiedig i'w datrys yng nghyd-destun cynllun ar gyfer dyfodol gwydn i'r cymunedau ar hyd a thu hwnt y llinell. Gallai hyn gynnwys:

  • helpu gyda ffurfio Cynlluniau Cymunedol

  • cynorthwyo gyda chysylltiad cynhyrchiol rhwng trefi a phentrefi

  • cefnogi polisïau a mentrau sy'n adlewyrchu blaenoriaethau a nodwyd yn lleol, a

  • gweithio gyda pherchnogion tir sy'n cyfrannu i alluogi datblygiad 'Un Planed' o dai effaith isel, carbon isel, a throsi ardaloedd pori addas yn gynhyrchu garddwriaethol.


Amcan ehangach yw hyrwyddo economi gylchol sy'n unol â gofynion Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
 
 
Beth sy'n digwydd wedyn?

 

Wrth i gymunedau ddechrau delio â sefydlu cwmnïau cydweithredol ac Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol, i gynnal prosiectau cyhoeddus, ac i gynhyrchu arian, efallai y bydd angen rhywfaint o gymorth technegol arnynt yn barhaus.

Mewn egwyddor, rydym yn argymell cyflogi ymgynghorwyr lleol â chymwysterau da ar brosiectau gwerth chweil yn eu hardal eu hunain, ond mae'r Calon Cymru Network yma i ddarparu cefnogaeth barhaus os oes angen.

Gall rhai o'i aelodau ddarparu'r mathau hyn o wasanaethau proffesiynol a thechnegol. Cyfrifoldeb cleientiaid unigol fyddai eu hymgysylltiad na fyddent o dan unrhyw rwymedigaeth i ddangos ffafriaeth i aelodau CCN.


 
Pam fod y prosiect wedi'i ganolbwyntio ar y linell Calon Cymru?
 
Mae'r problemau sy'n wynebu'r cymunedau ar hyd y lein yn debyg iawn i'r rhai mewn unrhyw ardal wledig iawn yn y DU, ond mae'r rheilffordd yn darparu cyswllt trafnidiaeth carbon isel, ac mae'n rhoi hunaniaeth glir i'r diriogaeth y mae'n mynd drwyddi. Mae'r coridor hwn sydd wedi'i ddiffinio'n gryf i bob pwrpas yn rhanbarth economaidd-gymdeithasol, yn galw am fenter adnewyddu a sefydlogi - prosiect “Calon Cymru”.

bottom of page